Swyddi Newydd gydag Ynni Sir Gâr
Cydlynydd a Swyddog Adrodd Ynni Dyfed
*Cliciwch ar y ddolen isod* er mwyn lawrlwytho pdf o holl manylion y swydd newydd hon! Croeso i chi gysylltu gyda ni er mwyn cael sgwrs anffurfiol i ddeall mwy am y rôl – sioned@ynnisirgar.org / 07529901523
SWYDD DDISGRIFIAD_YNNI DYFED_YSG
Mae Ynni Sir Gâr yn chwilio am unigolyn trefnus, hyblyg a brwdfrydig sydd eisiau gweithio o fewn y sector ynni cymunedol i greu a chefnogi trawsnewidiad ynni cyfiawn all wasanaethu cymunedau lleol i herio newid hinsawdd, sicrhau llwybr datgarboneiddio lleol a brwydro yn erbyn tlodi tanwydd. Ni’n chwilio am berson gyda phrofiad ymarferol o drefnu sydd hefyd â’r awydd a’r ysgogiad i gyfrannu at dwf y sector ynni cymunedol yng Nghymru.
Prosiect Ynni Dyfed
Prosiect ymchwil a chefnogir gan gronfa ariannol Energy Redress yw Ynni Dyfed sy’n brosiect cydweithredol rhwng Ynni Sir Gâr, YnNi Teg a phrosiectau egni cymunedol ar draws Dyfed. Bydd yn gyfle i archwilio gallu ynni cymunedol i fod o fudd pellach i gymunedau – gan ddefnyddio ‘systemau egni lleol clyfar’ (SLES – smart local energy systems) wrth archwilio’r cyfleoedd sy’n codi o newidiadau rheoleiddio diweddar Ofgem. Bydd y prosiect peilot newydd hwn, yn sicr o fod yn heriol ac yn gyffrous. Yn rhannol, bydd yn brosiect ymchwil sy’n ymdrin â heriau rhwydwaith lleol i wireddu model egni datgarbonedig, datganoledig. Mi fydd hefyd yn peilota sut gellid darparu’r opsiwn tecaf – lle mae
manteision yn cael eu rhannu’n lleol ar draws tref/cymuned. Mae Ynni Dyfed yn cael ei gefnogi gan bartneriaid cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sy’n dod â phrofiad a sgiliau ynghŷd o’r sector. Mae Ynni
Sir Gâr wedi cael cyllideb Redress dwy flynedd i ddatblygu a chyflawni’r cam datblygu hwn o Ynni Dyfed.
***
Mae hefyd gyda ni lawer o gyfleon gwirfoddoli ar gael i unrhywun sydd âg amser i’w rhoi tuag at gwireddu ein prosiectau cymunedol.
Am ba bynnag un o’r cyfleoedd yma, cysylltwch gyda chydlynydd Ynni Sir Gâr, Sioned Haf: sioned@ynnisirgar.org