Mynd i'r cynnwys

Mae Strydoedd Trawsnewid yn brosiect arobryn sy’n dod â chymdogion at ei gilydd. Mae’n creu strydoedd mwy gofalgar, sy’n rhannu, yn fwy cysylltiedig ac yn helpu ei gilydd i leihau eu hôl troed carbon a chost byw trwy gymryd camau ymarferol gyda’i gilydd.

Sut mae Strydoedd Trawsnewid Sir Gaerfyrddin yn gweithio?

I gymryd rhan, rydych chi a’ch cymdogion yn ffurfio grŵp o 6-8 o aelwydydd. Gall hyn fod ar un stryd neu o fewn ardal fach.

Rydych chi’n cwrdd gyda’ch gilydd dros ychydig fisoedd i archwilio amrywiaeth o bynciau gan gynnwys: Ynni, Bwyd, Teithio, Dŵr a Defnyddio Adnoddau.

Mae cartrefi’n lleihau eu hôl troed carbon ac yn torri biliau eu cartref trwy gymryd camau syml.

Mae cysylltiadau’n cael eu ffurfio, cyfeillgarwch yn cael ei wneud, mwy o rannu yn digwydd ac mae pob math o bethau annisgwyl, rhyfeddol yn codi.

Pa bethau rhyfeddol allech chi a’ch cymdogion eu gwneud gyda’ch gilydd?

 

Mae cymryd rhan yn Strydoedd Trawsnewid Sir Gaerfyrddin yn eich cefnogi i ddychmygu a chreu ffyrdd eraill y gallwch wneud eich stryd yn lle mwy gofalgar, rhannu, gwyrddach i fyw ynddo.

“Y budd rhagorol yr ydym i gyd wedi’i fwynhau am Strydoedd Trawsnewid yw teimlo cymuned – rhai ohonom am y tro cyntaf; adnabod ein cymdogion; teimlo’n rhan o rhywbeth mwy; teimlo’n gysylltiedig.” 

Rydym yn darparu deunyddiau hawdd eu defnyddio fel eich bod chi, ynghyd â’ch cymdogion, yn gallu archwilio’r pum thema hyn…

Ynni: Archwiliwch ffyrdd o leihau eich defnydd o ynni, lleihau biliau ac arbed carbon
Bwyd: Syniadau ar gyfer bwyta'n dda a lleihau gwastraff heb iddo gostio'r ddaear
Dŵr: Lleihau'r defnydd o ddŵr yn eich cartrefi a'ch gerddi a thorri eich biliau
Teithio: Syniadau gwych ar gyfer teithio o gwmpas mewn ffyrdd sy'n iach i chi a'r blaned
Defnyddio Adnoddau: Ailystyried arferion siopa a byw i rannu, cyfnewid, lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio

Canllaw syml i ‘Strydoedd Trawsnewid Sir Gaerfyrddin’

Nodwch, fe grëwyd y prosiect gwreiddiol ‘Strydoedd Trawsnewid’ gan Transition Totnes. Rydym ni yn Ynni Sir Gâr wedi addasu’r prosiect i fod yn berthnasol i gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin yn y Gymraeg a’r Saesneg. Os ydych chi o rywle arall, cysylltwch â Transition Totnes i gofrestru eich diddordeb. Mae Ynni Sir Gâr hefyd yn hapus i rannu ein haddasiadau a fersiynau Cymraeg o’r deunyddiau gyda chi i’w datblygu ymhellach ar gyfer gwahanol gymunedau ledled Cymru.

1. Siaradwch ag un o dîm Ynni Sir Gâr

Cysylltwch â ni a gallwn esbonio’r broses yn fanylach ac anfon Pecyn Cychwyn Strydoedd Trawsnewid Sir Gaerfyrddin atoch gyda deunyddiau syml i chi ddechrau arni.

2. Recriwtio eich Cymdogion

O fewn y pecyn cychwyn mae canllaw a thaflenni i’ch helpu i recriwtio eich cymdogion. Rydym hefyd wedi ysgrifennu canllaw ‘Cynnwys Pawb’ i’ch cefnogi i gynnwys pawb ar eich stryd neu’ch ardal.

3. Cynnal eich Sesiwn Gyntaf

Yn Sir Gâr rydym yn hwyluso’r sesiwn gyntaf i chi, yn helpu’r grŵp i ffurfio, yn egluro’r prosiect ac yn archwilio gyda chi a’ch cymdogion sut y gallech gysylltu mwy a gwneud eich stryd yn lle gwych i fyw.

4. Ymunwch

Rydym yn awgrymu eich bod yn cyfarfod bob pythefnos i archwilio’r pum pwnc allweddol sef Ynni, Bwyd, Defnyddio Adnoddau, Teithio a Dŵr. Rydym yn darparu llawlyfr o adnoddau hawdd eu darllen, pynciau sgwrs a gweithgareddau ymarferol i’ch helpu i leihau eich biliau a’ch ôl troed carbon.

5. Gwnewch eich stryd yn anhygoel

Yn y sesiwn olaf, byddwch yn myfyrio ar yr hyn rydych wedi’i gyflawni ac yn edrych ymlaen at yr hyn y gallai eich stryd neu ardal ei wneud gyda’ch gilydd nesaf… Rhannu gerddi, clybiau cinio, creu ymylon ffyrdd sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt, nosweithu tynnu delweddu thermol, cynlluniau rhannu ceir, partïon stryd, rhannu silffoedd, prosiectau cyfeillio, mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd… Gallwn eich cysylltu â Strydoedd Trawsnewid eraill i rannu syniadau ac ysbrydoliaeth

Cwestiynau cyffredin

Dydw i ddim wir yn hoffi cael pobl yn fy nghartref – alla i ddim ei wneud ar fy mhen fy hun?

Mae pobl sydd wedi rhoi cynnig arni wedi canfod ei bod hi’n llawer haws gwneud y newidiadau gyda’ch gilydd – rydych chi’n cadw’ch gilydd i fynd ac yn mwynhau’r broses yn llawer mwy. Byddwn yn anfon rhywun sydd wedi’i wneud o’r blaen i’r cyfarfod cyntaf i’ch helpu chi i gyd i ddechrau arni. Os byddwch chi’n canfod nad ydych chi wir yn ei fwynhau, yna gallwch chi adael ar unrhyw adeg.

Faint ddylem ni eu cael yn ein grŵp?

Mae chwech i wyth aelwyd yn ddelfrydol, ond dim mwy na 10 o bobl.

Faint o arian alla i ei arbed?

Mae aelwydydd sydd wedi cymryd rhan yn Strydoedd Trawsnewid wedi nodi eu bod wedi gwneud newidiadau sydd wedi arbed traean o’u biliau ynni a dŵr iddynt ar gyfartaledd.

Sut alla i gael gwybod mwy am Strydoedd Trawsnewid Sir Gaerfyrddin?

Am ragor o wybodaeth ffoniwch 07966014348 neu e-bostiwch trawsnewydd@ynnisirgar.org. Gallwn eich helpu i gysylltu ag eraill yn eich ardal a allai fod â diddordeb mewn ymuno â grŵp a darparu taflenni i’ch helpu i recriwtio eraill. Unwaith y bydd grŵp newydd wedi’i ffurfio, byddwn yn darparu deunyddiau ar gyfer pob aelwyd, ac yn trefnu i hwylusydd fynychu eich cyfarfod cyntaf i’ch helpu i ddechrau arni.

 

**Mae straeon a syniadau o’r prosiect Strydoedd Trawsnewid gwreiddiol yn Totnes ar wefan www.transitionstreets.org.uk  Byddwn yn dechrau rhannu straeon tebyg o bob cwr o Sir Gaerfyrddin wrth i ni ddatblygu**