Archwiliadau ynni rhad ac am ddim i fusnesau tref Caerfyrddin ar gyfer helpu i dorri costau a charbon.
Mae cynnig o archwiliad ynni rhad ac am ddim yn cael ei roi i fusnesau a sefydliadau yn ystod yr haf eleni, drwy gyfrwng arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin a sicrhawyd gan Gyngor Tref Caerfyrddin.
Cafodd Ynni Sir Gar ac Ynni Teg eu comisiynu i ymgymryd â’r asesiadau a helpu busnesau lleol i nodi mannau ar gyfer optimeiddio defnydd ynni. Bydd y wybodaeth hon yn ein helpu ni i nodi prosiectau ar raddfa fwy hefyd fel gallwn chwilio am gyllid i helpu i arbed arian a gallu symud tuag at sero net gyda’n gilydd.
Yr hyn i’w ddisgwyl:
- Bydd asesydd yn ymweld â’ch safle chi i asesu’r adeilad ac arolygu defnydd ynni, a phatrymau o’i ddefnyddio ac ati.
- Caiff y wybodaeth ei throi yn adroddiad ynni gydag awgrymiadau yn cynnwys nodi’r benthyciadau/grantiau sydd ar gael.
- Gall eich asesydd egluro manylion yr adroddiad i chi ar gyfer sicrhau ei fod yn addas ac yn gwbl ddealladwy.
I chi fod yn gymwys i gael asesiad rhad ac am ddim mae angen:
- Bod â’ch safle yn nhref Caerfyrddin.
- Perchnogi, neu fod â les ddigon maith, i gyfiawnhau ceisio rheolaeth ar ynni’r adeilad.
- Bod ag unigolyn a enwir sy’n fodlon bod yn gysylltydd.
- Bod ar gael yn ystod yr haf eleni i gymryd rhan.
- Bod ag o leiaf 12 mis o filiau ynni ar gael i fwrw golwg yn ôl drostynt.
I fynegi diddordeb mewn asesiad rhad ac am ddim, lawrlwythwch a llenwch Ffurflen Mynegi Diddordeb.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
E-bost: judith@ynniteg.cymru
Ffôn:07848184719



