Mynd i'r cynnwys

Prosiectau

Tyrbin Rhydygwydd | Neuadd Goffa Salem | Cynllun Ynni Lleol | TrydaNi | Adfywio Cymru | Ymgysylltu â’r CyhoeddYmgysylltiad â chyrff llywodraeth leol a’r llywodraeth yn genedlaethol Archwiliadau Ynni ac Arbed Ynni | AddysgCynllun Syml iawn i ddatrys yr Argyfwng Hinsawdd

Tyrbin Rhydygwydd, Salem, Llandeilo

Mae ein tyrbin gwynt 500kW sy’n eiddo i’r gymuned.

Y tyrbin cyntaf yn Sir Gâr i fod yn eiddo i’r gymuned, wedi bod yn cynhyrchu trydan er mis Mehefin 2016. Ar y cychwyn, hwn oedd y gosodiad ynni cymunedol mwyaf yng Nghymru. Gyda’n gilydd, rydym wedi cynhyrchu dros 5.2 GWH ers i’r tyrbin gwynt ddechrau troi. Mae’r trydan a gynhyrchir o’r tyrbin bob blwyddyn yn ddigon i bweru 400 o gartrefi, a byddai cyfanswm yr hyn a gynhyrchir yn pweru cerbyd trydan am 24,000,000 o filltiroedd!

Dosbarthwyd elw ym mhentref Salem, ar gyrion Llandeilo, Sir Gâr ble mae ein tyrbin wedi ei osod. Llwyddom i godi £1.3m gan gyfranddalwyr i dalu am y tyrbin, ac roedd 72% ohonynt yn drigolion lleol o Sir Gâr. Bydd y tyrbin yn creu amryw effeithiau economaidd, gan gynnwys y buddion allweddol canlynol:

  • Cefnogi datblygiad prosiectau ynni adnewyddadwy yn Sir Gâr gan ennill elw pellach.
  • Taliadau i Seren Energy a pherchnogion tir lleol, gan gynnal busnes lleol a fferm leol.
  • Sefydlu cynllun sy’n cefnogi aelwydydd, busnesau a sefydliadau cymunedol lleol gyda grantiau a benthyciadau di-log neu log isel.
  • Talu llog i gyfranddalwyr.

Mae Ynni Sir Gâr wedi llunio rhagamcanion ariannol ar sail sawl senario wahanol, o ran y trydan a gynhyrchir a’r allgludo, gyda’r senario fwyaf ceidwadol yn awgrymu gwarged sylweddol ar gyfer eitemau yn y ddau bwynt bwled diwethaf dros y 25 mlynedd nesaf. Mae’r tyrbin gwynt 500kW hwn yn cynhyrchu ynni glân, carbon isel a bydd yn gwneud hynny am y ddwy ddegawd nesaf, o leiaf. Ni allem fod wedi cyflawni hyn heb gymorth a chyllid aelodau a chyfranddalwyr.

Rydym hefyd wedi datblygu map o safleoedd tyrbin gwynt posibl at ddefnydd y gymuned yn Sir Gâr, ac wedi nodi 50 cyfle allweddol.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.

Neuadd Goffa Salem

Mae Ynni Sir Gâr wedi talu am osod system pwynt gwefru, batri a PV ar neuadd goffa Salem.

Mae’r pwynt gwefru cerbydau trydan yn rhad ac am ddim i’r cyhoedd ac nid yw’n costio ceiniog i’r neuadd chwaith, gan fod y trydan a ddefnyddir i wefru yn dod o’r panelau PV ac yn cael ei storio yn y batris

Cynllun Ynni Lleol

Mae Ynni Sir Gâr yn gweithio gydag Ynni Lleol ar brosiectau yng Nghapel Dewi, Llandysul a Nant-ycaws.

Mae Ynni Lleol yn ffordd newydd o alluogi cymunedau lleol i gydweithio i gronni yr hyn y maen nhw’n ei gynhyrchu’n lleol ac yn berchen arno’n lleol, a rheoli’r galw lleol er mwyn lleihau biliau ac allyriannau carbon. Cred Ynni Lleol y dylai cymunedau fod yn gallu elwa trwy symud eu defnydd o ynni at adegau rhatach o’r dydd a chyfateb hyn i gynhyrchu lleol. Mae Ynni Lleol wedi dylunio marchnad pŵer leol trwy Glybiau Ynni Lleol. Mae hyn yn galluogi aelwydydd i ddod at ei gilydd i ddangos pryd y maent yn defnyddio pŵer glân, lleol pan fo’n cael ei gynhyrchu.

Mae’r cynllun yn rhoi pris i’r rheiny sy’n cynhyrchu am y pŵer y maent yn ei gynhyrchu, ac mae’r pris hwn yn adlewyrchu ei wir werth, yn cadw mwy o arian yn lleol ac yn lleihau biliau trydan y cartref.

Gallwch ddarganfod mwy am Ynni Lleol yma: energylocal.org.uk

TrydaNi

Sefydlwyd TrydaNi gan aelodau Ynni Cymunedol Cymru er mwyn helpu datgarboneiddio Cymru, helpu datblygu cymunedau cynaliadwy ffyniannus a threchu problemau cymdeithasol fel tlodi cludiant ac ynysu cymdeithasol. Ei nod oedd gwneud hynny trwy osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan, a gweithredu prosiectau cludiant cysylltiedig sydd â budd i’r gymuned, ledled ardaloedd gwledig Cymru.

Ychydig cyn cyflwyno cyfyngiadau symud Covid-19, cododd TrydaNi £20,000 ar Crowdfunder gyda dros 120 o gefnogwyr. Mae’n edrych ar ddatblygu cytundebau cyfreithiol mewn safleoedd yng nghanolbarth Cymru ar gyfer gwefru sydyn.

Gallwch ddarganfod mwy am TrydaNi yma: chargeplacewales.org

Adfywio Cymru

Gweithia Ynni Sir Gâr yn agos gydag Adfywio Cymru ar nifer o’n prosiectau.

Mae Adfywio Cymru yn darparu cymorth cymheiriaid i grwpiau cymunedol sy’n rhoi sylw i newid hinsawdd yng Nghymru. Mae Ynni Sir Gâr yn sefydliad lletya i fentoriaid ar y rhaglen, ac mae wedi lletya cydlynwyr a mentoriaid Adfywio Cymru yn Sir Gâr ers lansio’r rhaglen hon sy’n gweithredu ynghylch Newid Hinsawdd – rhaglen sydd wedi torri tir newydd – yn 2012.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Adfywio Cymru yn renewwales.org.uk

Ymgysylltu â'r Cyhoedd

Rhoddodd Ynni Sir Gâr gyflwyniadau mewn nifer o ddigwyddiadau ac ar nifer o allfeydd cyfryngau ledled Sir Gâr, Cymru a thu hwnt. Rydym hefyd wedi cyfrannu nifer o erthyglau at nifer o gyhoeddiadau.

Rydym wedi ymgysylltu â phrosiectau ymchwil gan sefydliadau academaidd ac ymchwil, gan gyfrannu at fwy o wybodaeth am y sector ynni cymunedol. Rydym hefyd yn gweithio’n barhaus gyda rhwydweithiau/sefydliadau ynni cymunedol eraill: e.e. Ynni Cymunedol Cymru, Adfywio Cymru, Bancio Cymunedol Robert Owen, Severn Wye, Menter Cwm Gwendraeth Elli a llawer mwy.

Yn sgil ein gwaith ymgysylltu, cawsom ein henwebu am nifer o wobrau gan gynnwys Gwobr Academi Cynaliadwy 2018 yn y categori ‘Hyrwyddwr Cynaliadwyedd’ a Gwobr Ynni Gwrdd Cymru 2015 yn y categori ‘Ymgysylltu â’r Gymuned’.

Ymgysylltiad â chyrff llywodraeth leol a'r llywodraeth yn genedlaethol

Mae Ynni Sir Gâr yn ymgysylltu’n weithgar â gwaith datblygu polisi lleol a gwleidyddiaeth, ac mae wedi rhoi nifer o gyflwyniadau ac wedi cynnal cyfarfodydd gyda Chyngor Sir Gâr bob deufis. Rydym hefyd yn ymgysylltu â gwleidyddion ar lefel Cynulliad Cymru ac yn cyfrannu, gyda grwpiau ynni cymunedol eraill, trwy Ynni Cymunedol Cymru, i ddylanwadu ar bolisi ar lefel Cymru a’r Deyrnas Unedig er mwyn cefnogi’r sector ynni cymunedol.

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Chyngor Sir Gâr ar ei bolisi Carbon Sero-net, gan gynnwys creu strategaeth syml iawn i fynd i’r afael â’r amryw heriau yr ydym yn eu hwynebu, Cynllun Syml iawn i ddatrys yr Argyfwng Hinsawdd. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r cyngor ar ddihatru ei gronfa bensiwn, er mwyn cefnogi mwy o brosiectau ynni cymunedol. Gobeithiwn barhau i drafod gyda’r cyngor, a, thrwy wneud hynny, sicrhau ein bod oll yn llwyddo i roi sylw i newid hinsawdd yn ein sir.

Ar wahân i gyfrannu at ddatblygiad polisi, rydym hefyd yn cydweithio ag Awdurdod Lleol Sir Gâr ar brosiectau adnewyddadwy go iawn. Mae’r rhain yn cynnwys ein gwaith gyda’r cyngor sir i ddarparu system 10kW yn Ysgol Parc Waundew, Caerfyrddin yn 2012; gweithio ar bwyntiau gwefru ceir trydan mewn meysydd parcio sy’n eiddo i Gyngor Sir Gâr, a gweithio ar y prosiect 10 Tref newydd.

Archwiliadau Ynni ac Arbed Ynni

Mae gan aelodau o’n bwrdd ac aelodau o’n staff brofiad helaeth mewn archwiliadau ynni a mesurau arbed ynni ar gyfer adeiladau cymunedol ledled Sir Gâr.

Da chi cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu os ydych eisiau gweithredu yn y maes hwn.

Mae yna nifer o adnoddau arbed ynni ar gael, gan gynnwys mentrau Llywodraeth Cymru, er enghraifft Nyth | Nest.
Gall tenantiaid y Cyngor gael cyngor pellach ar sicrhau bod eich cartref yn ynni-effeithlon ar wefan Cyngor Sir Gâr.
Gellir cael hyd i gyngor diduedd, adnoddau a gwybodaeth bellach hefyd ar wefan Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Addysg

Mae Ynni Sir Gâr wedi rhoi nifer o gyflwyniadau a gweithdai i ysgolion ac yn gobeithio adeiladu ar y gwaith hwn yn y dyfodol. Rydym wedi datblygu gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored a thaflenni adnoddau mewn partneriaeth â Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru ac maent ar gael ledled Cymru. Mae gan staff Ynni Sir Gâr ddiddordeb penodol yn y rôl addysgu y gallwn ei chwarae ar gyfer cymunedau ac ysgolion Sir Gâr, ac rydym wedi datblygu pecyn addysgu ynni cymunedol i ysgolion ledled Cymru. Mae ar gael yn rhad ac am ddim trwy’r adnoddau addysgu digidol ar Hwb Cymru.

Rydym yn awyddus i ddatblygu cysylltiadau gyda Choleg Sir Gâr ac ysgolion lleol er mwyn helpu paratoi cenedlaethau’r dyfodol at ddyfodol wedi’i ddatgarboneiddio.

Cynllun Syml iawn i ddatrys yr Argyfwng Hinsawdd

Mae’n anhygoel sut mae pawb yn dweud bod datrys yr Argyfwng Hinsawdd yn mynd i fod yn gymhleth ac yn ddrud iawn.

Mewn gwirionedd mae yna ffordd syml iawn o ddatrys yr Argyfwng Hinsawdd.

Cliciwch yma am y Cynllun Syml i Ddatrys yr Argyfwng Hinsawdd.