Mynd i'r cynnwys

'Pethau Pawb' - A Library of Things. (Llanymddyfri/Llandovery)

Croeso i Llyfrgell y Pethau Llanymddyfri      

Wyt ti’n gwybod bod dril newydd yn costio tua £50, ond yn ystod ei oes mae ond yn cael ei ddefnyddio ar gyfartaledd am 14 munud?  Pam prynu pan y gelli fenthyg?

Pethau Pawb – 5 Stryd Cerrig, Llanymddyfri, SA20 0BX.

Ni yng nghanol y dref, ac mae bae llwytho gyferbyn â’r siop lle y gelli barcio am gyfnod byr i gasglu nwyddau.

Helen yn cyflwyno’r Llyfrgell Pethau.

Sut fydda i’n benthyg? 

Er mwyn benthyg, bydd angen i ti greu cyfrif aelod ar-lein neu galw heibio i’n gweld ni. Mae angen i ti fod yn 18 oed neu drosodd, gyda cyfeiriad e-bost a gyda cerdyn debyd neu gredyd dilys y gelli ei gysylltu â dy gyfrif wrth gofrestru. Mae angen hefyd cytuno gyda’n telerau ac amodau. Y tro cyntaf y byddi’n benthyg eitem, bydd angen i ti ddod ag ID gyda ffotograff e.e. trwydded yrru neu fil gwasanaeth (utility bill).  

Mae Helen yn rhoi syniad i chi o’r ystod eang o bethau y gallwch chi eu benthyca o’r Llyfrgell nawr. Ac mae’n tyfu drwy’r amser!

Oes rhaid talu i ymuno?

Mae aelodaeth am ddim, ond mae ffî fach am fenthyg a gelli di ei weld ar bob eitem yn y catalog.

Pam chi’n codi tâl am fenthyg?

Ni eisiau cadw pob un o’r eitemau ar waith am mor hir â phosib fel bod gan bawb y cyfle i’w defnyddio pan fydd angen – yn hytrach na’u bod yn eistedd mewn sied neu atig ac yn cael eu defnyddio unwaith neu ddwy y flwyddyn.  Mae’r swm bach o arian ni’n gwneud o’r ffioedd benthyg yn mynd at dalu rhai o’n costau e.e. cynnal a chadw a thrwsio eitemau, eu storio’n ddiogel a thalu am yswiriant.

Darllenwch am rhai o’r pethau mae ein siop wedi’u cyflawni, gan gynnwys ein digwyddiadau a’n gweithdai.

Ein Cylchlythyr

Mynychwch un o’n Gweithdai Hogi Offerynnau

Mae Helen yn cynghori Bridie o Bencader ar sut i sefydlu Llyfrgell o Bethau.

Mae Helen wedi gweithio’n agos gyda Pethau Pawb Emlyn, Castell Newydd Emlyn (Castell Newydd Emlyn), yn eu cynghori ar sut i sefydlu Llyfrgell o Bethau a’u helpu gyda hyrwyddo. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda ‘Bentyg Cymru’, gan ddarparu cymorth a chyngor i ni.

Rhys yw Curadur ein Llyfrgell  o Bethau ac mae ei sgiliau wrth atgyweirio a chynnal a chadw’r eitemau rydyn ni’n eu rhannu yn amhrisiadwy. Gweithiodd Rhys yn flaenorol fel Athro yng Ngholeg Sir Benfro, ond mae bellach yn canolbwyntio ar gefnogi ei gymuned leol yn Llanymddyfri a gall droi ei law at unrhyw beth ymarferol. Mae hefyd yn gwirfoddoli gyda’r Caffi Trwsio a gynhelir ym Mhethau Pawb unwaith y mis.