Mynd i'r cynnwys

Ein Tîm

Neil Lewis – Rheolwr

(Rhan-amser)

Ymunodd Neil â ni o Gronfa Bancio Cymunedol Robert Owen ble’r oedd yn gweithio fel Rheolwr y Gronfa Ynni Cymunedol. Roedd y gronfa hon, sydd wedi ennill gwobrau lu, yn gymorth i ddatblygu tua 20 prosiect ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned, ledled Cymru, trwy fenthyca dros £1.2 miliwn. Cyn hyn, bu’n gweithio i Fenter Cwm Gwendraeth Elli, gan roi cyngor i fentrau bach a chanolig yng nghefn gwlad Sir Gâr ynghylch ynni a chynaliadwyedd amgylcheddol. Mae’n gyn-gadeirydd ar Gyngor Cymuned Abergwili ac mae ganddo Radd Meistr mewn Ynni a’r Amgylchedd o Brifysgol Dwyrain Llundain.

Yn flaenorol mae Neil wedi gweithio fel Deintydd ac fel Llefarydd y Gymraeg ar gyfer y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Mae ei ddiddordeb mewn ynni glân yn deillio o’i blentyndod wrth ymyl safle glo brig dwfn iawn . Roedd Neil hefyd yn Gydlynydd/Mentor i Adfywio Cymru. Mae wedi gyrru ceir trydan 120,000 o filltiroedd ar hyd a lled Cymru ac felly mae’n arbenigwr ar y diffyg seilwaith gwefru.

Sioned Haf - Cydlynydd

(Rhan-amser)

Mae Sioned yn gweithio’n rhan-amser i Ynni Sir Gâr ac yn gweithio o Langadog yn Nyffryn Tywi. Mae ganddi ddoethuriaeth o Brifysgol Bangor ar y testun ‘Ynni Cymunedol yn yr Alban a Chymru’ ac mae’n parhau i gyfrannu ymchwil at y maes hwn.

Mae wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau er mwyn codi ymwybyddiaeth o botensial prosiectau ynni adnewyddadwy y mae’r gymuned yn berchen arnynt a chreodd nofel raffig er mwyn i ysgolion archwilio’r sector yn fanylach. Mae Sioned yn gyfarwyddwr ar DEG (Datblygiadau Egni Gwledig) yng ngogledd-orllewin Cymru ac Ynni Cymunedol Cymru. Mae Sioned hefyd yn fentor Adfywio Cymru.

Mari Arthur - Cadeirydd

Ar hyn o bryd mae Mari yn bartner yn Afallen.Cymru LLP ac yn ymgynghorydd llawrydd ar farchnata a chyfathrebu sy’n arbenigo ar gynaliadwyedd. Tan yn gynnar yn 2020 roedd Mari yn Gyfarwyddwr Cynnal Cymru – Sustain Wales, ac mae wedi rheoli prosiectau traws-sector, gyda ffocws ar y sector cyfleustodau, cwsmeriaid hyglwyf, ymgysylltu â’r gymuned, cynaliadwyedd a’r amgylchedd yn ddiweddar.

Mae’n rhannu ei hamser rhwng Trimsaran a Chaerdydd ac mae wedi bod yn Aelod o Fwrdd Ynni Sir Gâr er 2017. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Cymru Gynnes ac yn llywodraethwr ysgol yn Ysgol Stebonheath ac Ysgol y Strade yn Llanelli. Ar hyn o bryd mae Mari hefyd yn eistedd ar Grŵp Herio ar ran Cwsmeriaid Dŵr Cymru a Grŵp Ymgysylltu â Chwsmeriaid Wales & West Utilities ac yn cadeirio Panel Cynghori Amgylcheddol Annibynnol Dŵr Cymru.

Tom Defis - Trysorydd

Mae Tom wedi bod yn Gynghorydd Sir yn Sir Gâr ar gyfer Gorllewin Tref Caerfyrddin, er 2012. Mae’n aelod o Bwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a Phanel Adolygu Tai (Eilydd) y sir ac yn llywodraethwr ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg Bro Myrddin ac Ysgol y Dderwen. Ef hefyd yw cydlynydd Cymorth Cristnogol Gorllewin Cymru. Mae Cymorth Cristnogol yn gweithio i waredu tlodi a threchu effeithiau tlodi ynghyd â’r achosion wrth wraidd tlodi.