Mynd i'r cynnwys

Dyfodol Arfer

Gwahoddiad!

Dewch i weld syniadau a gwaith creadigol grwp o bobol ifanc sydd wedi bod yn rhan o brosiect Dyfodol Arfer. Fel rhan o’r prosiect, cafodd grwp lleol o bobol ifanc y cyfle i edrych yn fanylach ac i ddysgu am rhai o hen arferion a gwybodaeth cymunedau gwledig Cymru. Edrychwyd ar themau yn cynnwys egni, bwyd a meddyginiaeth naturiol. Bydd yr arddangosfa yn ceisio dehongli sut gall y toreth yma o wybodaeth hanesyddol siapio dyfodol fwy hyfyw mewn hinsawdd newidadwy. Mae gennym yr atebion wedi’u chloi yn ein gorffennol!

Cafodd yr arddangosfa ei greu a’i baratoi yn gydweithredol gan nifer o bobol ifanc o ardaloedd Castell Newydd Emlyn, Pencader a Phont Tyweli yng ngogledd orllewin Sir Gâr. Cafodd y phrosiect ei hariannu gan gronfa ‘Llwyddo’n Lleol’, a’i drefnu gan Ynni Sir Gâr. 

Bydd yr arddangosfa yn rhedeg o’r 4ydd-6ed o Rhagfyr (o 6-8yp), ac ar y 7fed o Rhagfyr (o 11yb – 1yp). Bydd cyfle i siarad gyda rhai o’r artistiaid lleol ac i brynu anrhegion Nadolig o’r gwaith creadigol.

Bydd yr arddangosfa yn cael ei gynnal yn Pwerdy, Pont Tyweli.

Mae Dyfodol Arfer yn gyfres o weithdai a digwyddiadau cymunedol fydd yn edrych ar draddodiadau brodorol a gwybodaeth cynhenid y Cymry am materion byw yn gynaliadwy. Bydd y traddodiadau yma am hunan ddibyniaeth a chynaliadwyaeth yn cael ei ddatblethu a’u dogfennu mewn cyfres o fideos er mwyn arrddangos y cyfoeth o wybodaeth sydd tu fewn ein cymunedau ni’n barod i wynebu herion y dyfodol yng ngwyneb newid hinsawdd a colled bioamrywiaeth a natur. Bydd y themau fydd yn cael eu archwilio yn cynnwys edrych ar atebion traddodiadl i greu egni lleol, bwyd lleol a perlysiau meddygynol. 

Bydd y gweithgareddau yma yn ffocysu o gwmpas cymunedau Castell Newydd Emlyn, Pencader a Phont-tyweli. 

Maent yn addas ar gyfer pobl 14 – 35 oed. Does dim angen bod gen chi sgiliau camera o flaen llaw.

Mae pob gweithdy rhwng 7-9pm.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag arweinydd y prosiect, Lleucu Meinir: lleucu@ynnisirgar.org 

Mae’r prosiect yma yn cael ei chefnogi’n garedig gan Arfor, Menter Gorllewin Sir Gâr, Yr Ardd a Hen Bwerdy Emlyn.

Dyddiadau Gweithdai Dyfodol Arfer

10/9/24 – Pwerdy, Pont Tyweli
17/9/24 – Festri Tabernacl, Pencader
24/9/24 – Neuadd Cawdor, Castell Newydd Emlyn 
1/10/24 – Pwerdy, Pont Tyweli + ymweliad ag Yr Ardd
8/10/24 – Festri Tabernacl, Pencader + ymweldiad
15/10/24 – Neuadd Cawdor, Castell Newydd Emlyn – ymweld â’r Hen Bwerdy Trydan
22/10/24 -Pwerdy, Pont Tyweli
29/10/24 – Festri Tabernacl, Pencader
5/11/24 – Neuadd Cawdor, Castell Newydd Emlyn 
12/11/24 – Pwerdy, Pont Tyweli
19/11/24 – Festri Tabernacl, Pencader
26/11/24 – Neuadd Cawdor, Castell Newydd Emlyn

ARDDANGOSFA O’R GWAITH YN PWERDY PONT TYWELI

Nos Lun 2ail – Nos Sadwrn yr 8ed o Awst, 2024

 

THEMAU

Pont Tyweli – Iechyd Natur
Pencader – Tyfu bwyd
Castell Newydd Emlyn – Creu egni adnewyddadwy