Cronfeydd Cymunedol
Ers mis Mehefin 2016, mae ein tyrbin gwynt cymunedol yn Rhydygwydd, Salem, Llandeilo wedi bod yn cynhyrchu ynni glân drwy’r egni sy’n cael ei ddal gan y gwynt. Mae’r tyrbin erbyn hyn wedi cynhyrchu digon o ynni ac arian er mwyn i ni greu’r tri crochan arian arbennig isod er mwyn cefnogi syniadau pobol ifanc, cymunedau a busnesau y sir i ddatgarboneiddio a gwireddu prosiectau i weithredu dros budd yr hinsawdd, ein heconomi cymunedol ac ein byd natur.
Cronfa Cymunedol (i grwpiau cymunedol)
Yn 2024/5, fe fuddsoddon ni £29,172 mewn pump prosiect trwy grantiau unigol yn amrywio rhwng £1,000 a £10,000:
- Neuadd Trimsaran, i gyfrannu tuag at baneli solar am ei neuadd gymunedol
- SERO, Caerfyrddin, i gefnogi ei gwaith ar yr ymgyrch ‘Take the Jump‘ i hybu camau bach ond arloesol er mwyn gweithredu er budd yr hinsawdd yn ein bywydau personol ac o fewn ein cymuned
- Parc Gwledig Llyn Llech Owain, Gorslas i gefnogi prosiect cadwraeth am Titw’r Helyg (sydd ar y rhestr goch rhywogaethau prind yng Nghymru)
- Butterfly HQ, Llanelli i gefnogi ei prosiect i ymgysylltu gyda cymunedau yn Llanelli am gynaliadwyedd
- Menter ar Gyfer Cadwraeth Natur Cymru, Trap, Llandeilo i gefnogi prosiect arbed cimwch yr afon
Yn 2023/4, fe fuddsoddon ni £31,000 mewn pump prosiect trwy grantiau unigol yn amrywio rhwng £300 a £10,000:
- Clwb Rygbi, Nantgaredig i gyfrannu tuag at baneli solar newydd ar ei adeilad
- Care and Repair Carmarthenshire, Caerfyrddin fel cyfraniad tuag at ei gwaith i sicrhau effeithlonrwydd ynni
- Caerfyrddin Gyda’n Gilydd, i helpu iddynt dosbarthu a chodi adlewyrchwyr gwresogi (radiator reflectors) mewn tai yn dalgylch dref Caerfyrddin
- Menter Iaith Cwm Gwendraeth, i gyfrannu tuag at effeithlonrywdd ynni a phaneli solar ar adeilad gymunedol Pafiliwn Penygroes
- Llyfrgell Porthtywyn i gyfrannu tuag at greu gofod twym yn y gymuned
Cronfa Chwyldro (i blant a phobol ifanc)
Rydym yn gwahodd ceisiadau rhwng £50 a £300 i gefnogi syniadau pobol ifanc a phlant y sir (rhwng 8 ac 18) i ariannu eu syniadau a phrosiectau yn y maes gweithredu dros yr hinsawdd.
Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais* yma, neu os hoffech chi fwy o fanylion neu â chwestiynau pellach am y gronfacysylltwch gydag Ynni Sir Gâr drwy e-bostio: sioned@ynnisirgar.org. Mae’r gronfa hon yn agored yn barhaol, ceisiwch amdani!
*am gopi Word o’r ffurflen gais, cysylltwch â ni er mwyn i ni eu anfon atoch
Rhwng 2022 a 2025 fe fuddsoddon ni £10,894 mewn saith prosiect yn benodol gyda pobol ifanc y sir:
- Ysgol Uwchradd Bro Dinefwr, i ddatblygu ‘swap-Shop’ i arbed gwastraff defnydd a hybu’r syniad o rhannu ac ail-defnyddio dillad
- Ysgol Gynradd Drefach, Ysgol Gynradd Cross-Hands ac Ysgol Gynradd Ty Croes, Rhydaman, cefnogi ei syniadau i greu gerddi yn yr ysgol er mwyn tyfu bwyd a lleihau’r carbon sy’n gysylltiedig milltiroedd bwyd
- Ysgol Gynradd Trimsaran i ddatblygu darn o dir gyhoeddus trwy ei phlannu planhigion a coed afalau
- Ynni Da, Sir Gaerfyrddin, er mwyn ymweld a rhedeg gweithdai gyda 29 o ysgolion y sir
- Perllan Pencader, i gynorthwyo grwp o bobol ifanc yr ardal plannu perllan cymunedol
Mae grant Chwyldro ar gyfer plant a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin wedi galluogi ‘Ynni Da’ i ymweld â 29 o ysgolion yn y sir i ddysgu am ynni, trydan ac effeithlonrwydd ynni mewn ffordd hwyliog.

Grant Chwyldro llwyddiannus i ardd gymunedol newydd ym Mhencader!



Benthyciad Llog Isel (i fusnesau lleol)
Pwrpas y llog hon yw i gefnogi busensau lleol i osod systemau ynni cynaliadwy neu cymeryd camau cadarnhaol i ol osod adeiladau fel rhan o’r ymgyrch ehangach i ddatgarboneiddio Sir Gaerfyrddin.
Os hoffech chi fwy o fanylion neu â chwestiynau pellach am y benthyciad arbennig hon, cysylltwch Ynni Sir Gâr drwy e-bostio: neil@ynnisirgar.org.