Dinefwr Electric Car Club
Mae Ynni Sir Gâr yn llawn brwdfrydedd i fod yn gweithio gyda phartneriaid yn TrydaNi ac Ynni Cymunedol Cymru i ddatblygu prosiect i sefydlu clwb ceir trydan cymunedol yn Nyffryn Dinefwr. Pwrpas y clwb yw i gynnig opsiwn fforddiadwy i bobol leol gallu teithio yn fwy cynaliadwy, lle nad yw trafnidiaeth gyhoeddus yn gyfleus neu drafnidiaeth actif yn amhosib. Mae hefyd â’r nod o annog cartrefi sydd â mwy nag un car, i ystyried defnyddio’r car yn y clwb fel ei ail gar pan fo ei hangen (er mwyn lleihau’r nifer o geir petrol a disel sy’n teithio ar hyd ein ffyrdd).
Mae’r car ar gael ac ar eich cyfer chi, felly ymunwch â’r clwb!
Cysylltwch â Sioned o Ynni Sir Gâr er mwyn clywed mwy a mynd ati i ddod yn aelod. Gallwch hefyd darllen mwy ynglŷn â’r prosiect ar wefan TrydaNi yma.
Ar hyn o bryd, mae’r car ar y cyd ym Maes Parcio Castell Llanymddyfri. Mae Cyngor Sir Gâr wedi bod yn garedig i ni
gadw’r car yma tan ddiwedd yr Haf, felly os hoffech gael tro, cysylltwch. Er mwyn rhoi syniad o gostau, cymerwch olwg ar ein rhestr o esiamplau o deithiau gwahanol yma.
Mae’r prosiect hon yn cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol.
Esiamplau o Gostau
Isod mae esiamplau o gostau cynhwysol am nifer o dripiau gwahanol gan ddefnyddio Clwb Ceir Dinefwr. Maent oll yn
dechrau ac yn gorffen ym Maes Parcio Castell Llanymddyfri. Nid yw’r costau yn cynnwys ail-wefru (nodwch, mae yna ambell i le lle mae’n bosib gwefru am ddim, e.e. eiddo Ymddiriedolaeth Genedlaethol, rhai caffis a thafarndai ayyb – gwelwch ‘Zap Map‘ i ddarganfod pwyntiau gwefru hyd a lled y DU). Os eich bod yn llogi’r car am fwy na 150 milltir, byddwch yn derbyn disgownt o 10c pob milltir.
Esiampl 1: Coffi cloi ym Myddfai
7.6milltir, llogi am 2awr
2awr x £1.00 = £2.00
7.6milltir x £0.25c = £1.90
Ffi sefydlog o £2.50 yn gwneud cyfanswm o £6.40
Esiampl 2: Apwyntiad Ysbyty yng Nghaerfyrddin
51.8milltir, llogi am 4awr
4awr x £1.00 = £4.00
51.8milltir x £0.25c = £12.95
Ffi sefydlog o £2.50 yn gwneud cyfanswm o £19.45
Esiampl 3: Diwrnod allan yn Aberhonddu
41.8milltir, llogi am 6awr
6awr x £1.00 = £6.00
41.8milltir x £0.25c = £10.45
Ffi sefydlog o £2.50 yn gwneud cyfanswm o £18.95
Esiampl 4: Trip sinema i Abertawe
72.2milltir, llogi am 5awr
5awr x £1.00 = £5.00
72.2milltir x £0.25c = £18.05
Ffi sefydlog o £2.50 yn gwneud cyfanswm o £25.55
Esiampl 5: Diwrnod allan ar lan y môr ar Draeth Penbryn, Ceredigion
80.8milltir, llogi am 9awr
9awr x £1.00 = £9.00
80.8milltir x £0.25c = £20.20
Ffi sefydlog o £2.50 yn gwneud cyfanswm o £31.70
Esiampl 6: Aduniad Ysgol yn Aberystwyth
90.2milltir, llogi am 48awr
48awr x £1.00 = £48.00
90.2milltir x £0.25c = £22.55
Ffi sefydlog o £2.50 yn gwneud cyfanswm o £73.05
Esiampl 7: Penwythnos hir yn ymweld â theulu yng Nghaerdydd
110.4milltir, llogi am 72awr (3diwrnod)
72awr x £1.00 = £72.00
110.4milltir x £0.25c = £27.60
Ffi sefydlog o £2.50 yn gwneud cyfanswm o £102.10
Esiampl 8: Wythnos o wyliau yn Nolgellau, Eryri
165.6milltir, llogi am 168awr (7diwrnod)
168awr x £1.00 = £168.00
150milltir x £0.25c = £37.50
15.6milltir x £0.15* = £2.34 (*disgownt)
Ffi sefydlog o £2.50 yn gwneud cyfanswm o £210.34