Mynd i'r cynnwys

Amdanom ni

Pwy ydym ni?

Mae Ynni Sir Gâr yn Gymdeithas Budd Cymunedol sy’n gweithio gyda chymunedau er mwyn lleihau costau ynni, hybu
effeithlonrwydd ynni, taclo tlodi tanwydd, cynhyrchu ynni adnewyddadwy glân, gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan
sy’n cael eu rheoli’n lleol ac sydd â pherchnogaeth leol, a chadw elw a swyddi yn lleol. Ein gobaith, trwy wneud hynny, yw
cyfrannu at economi lleol cadarn a chynaliadwy yn Sir Gâr a’r cyffiniau.

Sefydlwyd Ynni Sir Gâr yn 2012, yn dilyn blwyddyn o ymgynghoriad cyhoeddus. Ein nod yw cefnogi grwpiau cymunedol ynghyd â’r rheiny sy’n dioddef tlodi tanwydd ac yn poeni am sicrwydd ynni a newid hinsawdd; gan greu prosiectau ynni adnewyddadwy sy’n cael eu rhedeg ar gyfer pobl, ac nid elw, a buddsoddi unrhyw warged a gynhyrchir yn ôl yn yr economi lleol.

Rydym yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy, yn cynghori ar effeithlonrwydd ynni, yn buddsoddi mewn datrysiadau cynaliadwy ac yn cadw elw’n lleol.

Gweledigaeth

Mae gweithredu cynlluniau arbed ynni ac ynni adnewyddadwy yn gallu bod yn her go iawn i gymunedau bychain. Ond,
credwn fod gan gymunedau yr hawl i elwa’n uniongyrchol o’u hadnoddau naturiol. Ein nod, felly, yw rhoi digon o gymorth
iddynt er mwyn cyflawni pob cynllun posibl yn Sir Gâr, gan gadw cymaint â phosibl o’r rheolaeth a’r elw yn y gymuned. Mae gan y llywodraeth a busnesau ran allweddol wrth sicrhau newid o ran materion hinsawdd ac ynni adnewyddadwy, ond
credwn fod gan gymunedau ran a chyfrifoldeb hanfodol hefyd wrth gwrdd â’r her.

Credwn y gall ymgysylltu â’r her hon, a chynllunio dyfodol lle’r ydym yn berchen ar ynni cynaliadwy ac yn cynhyrchu ynni cynaliadwy, fod yn ysgogiad i greu cymunedau cryfach, gwytnach a hapusach. Rydym yn cydnabod bod archwiliadau ynni, a ffordd drefnus o leihau’r defnydd o ynni, yn flaenoriaeth ar gyfer effeithlonrwydd ynni, Ond, gwelwn hefyd y potensial i gynlluniau ynni adnewyddadwy ennill arian/lleihau biliau a chyfrannu at economi lleol cadarn. Trwy wneud hynny, mae prosiectau ynni adnewyddadwy y mae’r gymuned yn berchen arnynt, yn cyfrannu at y nodau a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac felly’n cefnogi etifeddiaeth naturiol a diwylliannol Sir Gâr, ac iechyd a llesiant ein
cymunedau.

Gall Ynni Sir Gâr helpu cymunedau trwy:

  • Gynnig cyngor arbenigol
  • Adnabod mynediad at gyllid
  • Helpu rheoli prosiectau a gweithredu prosiectau
  • Meithrin cysylltiadau
  • Trwy ein rhwydwaith ynni cymunedol yng Nghymru ac yn Ewrop, darparu gwybodaeth am y mathau o brosiectau sydd
    wedi cael eu gweithredu, ac a fydd yn cael eu gweithredu, gan gymunedau sy’n cydweithio
  • Ariannu prosiectau yn uniongyrchol trwy ein cronfa budd cymunedol

Cydweithio

Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth ar draws pob sector. Er bod gennym ymrwymiad cadarn i egwyddorion
perchnogaeth gymunedol a datblygiad ar lawr gwlad, gwyddwn, heb ymrwymiad cyrff statudol a llywodraeth leol,
sefydliadau lleol a chefnogaeth fasnachol gref, y gall y broses o ddatblygu cynlluniau ynni adnewyddadwy fod yn un araf a
heriol. Ein hethos yw chwalu cymaint â phosibl o rwystrau trwy fod yn agored i rannu cynlluniau, a’u buddion, gyda phartneriaid busnes sydd â’r sgiliau a’r asedau iawn. Mae gennym fodel clir ar gyfer gweithredu mentrau ar y cyd, sy’n ein galluogi i rannu elw o gynlluniau gyda buddsoddwyr neu bartneriaid datblygu, a gellir gweld y cyd-fentrau hyn ar waith ar ein tudalen Prosiectau.

Rydym yn aelod o Ynni Cymunedol Cymru ac yn cydweithio â nifer o grwpiau ynni cymunedol ledled Cymru ac Ewrop.

Cynigion Cyfrannau Cymunedol

Mae Ynni Sir Gâr wedi cynnig tri chynnig cyfrannau cymunedol yn y gorffennol, yn benodol i ariannu ein Tyrbin Gwynt Cymunedol yn Rhydygwydd, Salem. Mae’r cynigion cyfrannau hyn wedi ein galluogi i wireddu’r prosiect cymunedol, ac felly bydd yn galluogi Ynni Sir Gâr i fod yn hunangynhaliol o ran ei chyllid yn y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn ein galluogi i helpu trawsnewid cymunedau, trechu tlodi tanwydd a newid hinsawdd a chynnig dychweliad teg i’r holl gyfranddalwyr ar eu harian. Cynigiwyd llog o 5.6% i’n buddsoddwyr cynnar o ddiwrnod eu buddsoddiad.

Gweler ein tudalen prosiectau am ragor o wybodaeth gefndir am ein cynigion cyfrannau yn y gorffennol. Cofiwch gadw llygad hefyd ar ein Newyddion a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol am gyfleoedd yn y dyfodol.

Cymorth

Mae ein gwaith wedi bod yn bosibl diolch i nifer o gefnogwyr, gan gynnwys Canolfan Cydweithredol Cymru a Chynllun Ynni Llywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd, cefnogir ein gwaith gan LEADER, sef rhaglen a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.