Adnoddau addysgiadol
Mae Ynni Sir Gâr yn angerddol ynglŷn â gweithio gydag ysgolion lleol i hybu dealltwriaeth a gwybodaeth ynglŷn â’r argyfwng hinsawdd a sut mae creu atebion lleol.
Isod mae yna ddolenni i adnoddau dysgu a all helpu athrawon a dysgwyr i ddeall mwy am y sector Ynni Cymunedol ac i hybu dealltwriaeth am yr angen am fwy o weithgarwch lleol i ateb yr herion sydd yn ein hwynebu oblegid yr argyfwng hinsawdd.
Adnoddau Ysgolion Cynradd
Tic-Toc: Nofel graffig am ynni, perchnogaeth a chymuned.
Nofel graffig ac ymarferion ychwanegol i helpu athrawon i drafod themâu yn cynnwys: hanes ynni, ynni adnewyddadwy, adnoddau naturiol, perchnogaeth ynni, ynni cymunedol a chyfrifoldeb cymunedol. Go gyfer Cyfnod Allweddol 2 & 3.
Ar gael o lyfrgell HWB Cymru yma.

Adnoddau Ysgolion Uwchradd
Helpu’r Hinsawdd yn eich Cymuned!
Llyfryn DIY o ymarferion i helpu dysgwyr i daclo gorbryder hinsawdd trwy cyflawni gweithgareddau bychain o fewn yr ysgol, y cartref neu yn y gymuned. Mae yna gyflwyniad Power Point i gyd-fynd â’r adnodd. Go gyfer Cyfnod Allweddol 3 & 4
Gellir lawrlwytho’r llyfryn yma a’r cyflwyniad Power Point yma.
